Nehemiah 11

Y bobl aeth i fyw i Jerwsalem

1Roedd arweinwyr y bobl wedi setlo yn Jerwsalem. A dyma gweddill y bobl yn taflu coelbren i benderfynu pwy arall oedd i symud i fyw i'r ddinas gysegredig. Roedd un o bob deg i fynd i Jerwsalem, a'r gweddill i fyw yn y trefi eraill. 2A dyma'r bobl yn bendithio'r dynion hynny wnaeth wirfoddoli i aros yn Jerwsalem.

3Dyma restr o arweinwyr y dalaith wnaeth setlo yn Jerwsalem (Roedd y rhan fwya o bobl Israel yn byw yn eu tai eu hunain yn y trefi eraill yn Jwda – a'r offeiriaid, Lefiaid, gweithwyr y deml, a disgynyddion gweision Solomon. 4Ond symudodd rhai o ddisgynyddion Jwda a Benjamin i fyw yn Jerwsalem.)

O lwyth Jwda:

Athaia fab Wseia (mab Sechareia, mab Amareia, mab Sheffateia, mab Mahalal-el, o glan Perets);
5Maaseia fab Barŵch (mab Colchose, mab Chasaia, mab Adaia, mab Ioiarîf, mab Sechareia, o glan Shela fab Jwda).

6(Cyfanswm disgynyddion Perets, y bobl ddewr wnaeth setlo yn Jerwsalem oedd 468.)

7O lwyth Benjamin:

Salw fab Meshwlam (mab Ioed, mab Pedaia, mab Colaia, mab Maaseia, mab Ithiel, mab Ieshaia,) 8a'r rhai oedd yn ei ddilyn, Gabai a Salai – 928 i gyd. 9(Joel fab Sichri oedd y swyddog oedd yn gyfrifol amdanyn nhw, a Jwda fab Hasenŵa oedd ei ddirprwy yn y ddinas.)

10O'r offeiriaid:

Idaïa fab Ioiarîf, Iachin, 11Seraia fab Chilceia (mab Meshwlam, mab Sadoc, mab Meraioth, mab Achitwf) sef archoffeiriad teml Dduw, 12a'i perthnasau oedd yn gweithio gyda nhw yn y deml – 822.
Adaia fab Ierocham (mab Pelaleia, mab Amtsi, mab Sechareia, mab Pashchwr, mab Malcîa),
13a'i perthnasau oedd yn arweinwyr y clan – 242;
Amash'sai fab Asarel (mab Achsai, mab Meshilemoth, mab Immer,)
14a'i berthnasau, y dynion dewr eraill oedd yn gweithio gydag e – 128. (Safdiel fab Hagedolîm oedd y swyddog yn gyfrifol amdanyn nhw).

15O'r Lefiaid:

Shemaia fab Chashwf (mab Asricam, mab Chashafeia fab Bwnni);
16Shabbethai a Iosafad, arweinwyr y Lefiaid, oedd yn gyfrifol am y gwaith allanol ar deml Dduw;
17Mataneia fab Micha (mab Sabdi ac ŵyr i Asaff), oedd yn arwain y gweddi ar mawl;
Bacbwceia oedd ei ddirprwy; ac
Afda fab Shammwa (mab Galal, mab Iedwthwn).

18(Cyfanswm y Lefiaid oedd yn byw yn y ddinas sanctaidd oedd 284).

19Yna gofalwyr y giatiau:

Accwf, Talmon a'r rhai oedd yn gwarchod y giatiau gyda nhw – 172.

20Roedd gweddill pobl Israel, a gweddill yr offeiriad a'r Lefiaid, yn byw yn eu tai eu hunain yn y trefi eraill yn Jwda.

21Roedd gweithwyr y deml yn byw yn Offel, a Sicha a Gishpa oedd yn gyfrifol amdanyn nhw.

22Rheolwr y Lefiaid yn Jerwsalem oedd Wssi fab Bani (mab Chashafeia, mab Mataneia, mab Micha), oedd yn un o ddisgynyddion Asaff, sef y cantorion oedd yn arwain yr addoliad yn nheml Dduw. 23Roedd brenin Persia wedi gorchymyn fod cyfran i'w roi iddyn nhw bob dydd. 24Ac roedd Pethacheia fab Meshesafel (o glan Serach o lwyth Jwda) ar gael i roi cyngor i'r brenin am faterion yn ymwneud â'r bobl.

Y bobl oedd yn byw tu allan i Jerwsalem

25I droi at y pentrefi a'r tiroedd o'u cwmpas nhw:

Dyma bobl llwyth Jwda yn setlo yn Ciriath-arba a'r pentrefi o'i chwmpas, Dibon a'i phentrefi, Icaftseël a'i phentrefi, 26Ieshŵa, Molada, Beth-pelet, 27Chatsar-shwal, a Beersheba a'i phentrefi, 28Siclag a Mechona a'i phentrefi, 29En-rimmon, Sora, Iarmwth, 30Sanoach, Adwlam, a'u pentrefi. Lachish a'i thiroedd, ac Aseca a'i phentrefi. Roedden nhw wedi setlo drwy'r wlad i gyd, o Beersheba yn y de i ddyffryn Hinnom yn y gogledd.

31Dyma bobl llwyth Benjamin yn setlo yn Geba, Michmas, Ai, a Bethel a'i phentrefi, 32yn Anathoth, Nob, Ananeia, 33Chatsor, Rama, Gittaïm, 34Hadid, Seboïm, Nefalat, 35Lod, Ono, a Dyffryn y Crefftwyr. 36A dyma rai o'r Lefiaid oedd yn Jwda yn symud i fyw i Benjamin.

Copyright information for CYM